Maen nhw’n dweud fod naw bywyd gan gath, ac mae’n debyg bod un yn ardal Pontypridd wedi rhoi prawf ar hynny – wedi iddo gwympo i’r afon.

Yn ôl yr RSPCA, llwyddodd Sooty i achub ei hun drwy ddal ei afael ar foncyff ar ôl syrthio i’r afon Tâf.

Cafodd y gath 10 mis oed ei ddarganfod yng nghanol broc ger dyfroedd gwyllt, ar ôl diflannu o’i gartref dridiau ynghynt.

Cafodd Sooty ei dynnu o’r dŵr gan ddiffoddwyr tân.

Diflannodd o’i gartref ym Mhwllgwaun, Pontypridd, ar ddydd Sul, Mehefin 28.

Chwiliodd Mandy Jones a’i theulu ymhobman, ond doedd dim golwg ohono tan i gerddwr ei weld yn eistedd ar ben boncyff ar yr afon gerllaw.

“Roedd e’n gymaint o ryddhad gweld Sooty eto, ar ôl i ni ddechrau amau’r gwaethaf, “ meddai Mandy Jones.

“Dwn i ddim sut aeth e’n sownd ar y boncyff ‘na, ond mae’n lwcus i fod yn fyw. Mae ‘na ddyfroedd gwyllt yn agos iawn at lle y cafodd ei achub.”

Dywedodd Hayley Matthews o’r RSPCA bod “Sooty yn ffodus iawn i gael ei achub. Mae’n gyd-ddigwyddiad lwcus ei fod wedi ei weld gan rywun sy’n nabod y teulu.”