Y golffiwr Rhys Davies fydd yr unig gynrychiolydd Cymreig yn y Bencampwriaeth Agored sy’n cychwyn yn Turnberry, yr Alban, heddiw.
Fe wnaeth Davies hawlio ei le yn y bencampwriaeth mewn cystadleuaeth yn Sunningdale fis Mehefin.
Bydd y Cymro yn rhannu’r cwrs gyda Gaganjeet Bhullar o’r India a James Driscoll o’r Unol Daleithiau yn ystod y ddwy rownd agoriadol.
Er mai Davies yw’r unig Gymro sy’n chwarae, dim ond un waith ers 1932 mae Cymru heb gael cynrychiolydd yn y Bencampwriaeth Agored – y llynedd yn Royal Birkdale.
Bydd cewri’r byd golff, gan gynnwys Tiger Woods, Padraig Harrington, Boo Weekley a Sergio Garcia, yn bresennol yn Turnberry dros y pedwar dydd nesaf, i gystadlu am un o brif wobrau’r gamp.