Mae adroddiad fydd yn cael ei ystyried gan Gabinet Cyngor Gwynedd heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 24) yn argymell sefydlu tasglu i adnabod y ffordd orau o sicrhau fod Hunaniaith – menter iaith y sir – yn cyflawni i’w llawn botensial dros y blynyddoedd i ddod.

Yn wahanol i fentrau iaith eraill Cymru, mae Hunaniaith wedi ei lleoli fel gwasanaeth o fewn strwythurau Cyngor Gwynedd.

Fel rhan o’u gwaith, mae swyddogion Hunaniaith yn gyfrifol am ystod eang o gynlluniau i hyrwyddo a chynyddu’r defnydd o’r iaith.

Mae’r gwaith yn cynnwys cydweithio â nifer o sefydliadau a grwpiau lleol yn ogystal ag unigolion llawrydd ar brosiectau amrywiol ar gyfer plant a phobol ifanc, teuluoedd, dysgwyr a thrigolion ein cymunedau.

Er hynny, mae Dafydd Iwan, cadeirydd grŵp strategol Hunanaith, wedi dweud bod potensial Hunaniaith yn cael ei “lesteirio gan brinder staff ac adnoddau” ac yn “atal datblygu cynlluniau llwyddiannus i ehangu gweithgaredd Cymraeg yn y gymuned”.

“Hunaniaith yn ddyledus iawn i Gyngor Gwynedd”

“Mae’n bwysig pwysleisio, fel mae Hunaniaith wedi ei wneud o’r cychwyn, mai ychwanegu at fwrlwm a defnydd y Gymraeg yn y sir yw’r nod, ac ychwanegu i lwyddiant yr hyn sydd eisoes yn digwydd, a mynd a’r Gymraeg i feysydd newydd ac i ardaloedd lle mae trai ieithyddol,” meddai Dafydd Iwan.

“Mae Hunaniaith yn ddyledus iawn i Gyngor Gwynedd am ei gefnogaeth o’r dechrau’n deg, ac yn falch o’r gwaith a gyflawnwyd.

“Credwn ei bod hi bellach yn amserol edrych mewn manylder ar sut bydd Hunaniaith yn gweithio orau i’r dyfodol.

“Mae pawb am weld Hunaniaith yn gwneud cyfraniad cadarnhaol dros yr iaith Gymraeg mewn cymunedau ar draws Gwynedd.

“Y cam pwysig nesaf yw cytuno gyda’r Cyngor a phartneriaid allweddol eraill ar sut orau i gyrraedd y nod.”

Argymhellion yr adroddiad

Mae’r adroddiad yn amlygu’r dewisiadau a’r cyfleoedd sy’n agored i Hunaniaith, gan gynnwys:

  • Sefydlu Hunaniaith fel endid(au) cyfreithiol annibynnol (e.e. cwmni cyfyngedig drwy warant, neu sefydliad corfforedig elusennol)
  • Sicrhau bod y gwaith wedi ei wreiddio yn y gymuned.
  • Sefydlu fforwm sirol o gynrychiolwyr cyrff amrywiol, sy’n gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg i awgrymu’r rhaglen waith.
  • Rhannu gwaith Hunaniaith yn ddaearyddol er mwyn cryfhau’r cyswllt lleol (awgrymir Bangor ac Ogwen, Gwyrfai, Meirion a Dwyfor fel rhanbarthau posib), ond mater i’w benderfynu yw hynny.

“Cyffroes archwilio’r posibiliadau”

“Hoffwn ddiolch i Dafydd Iwan am ei arweinyddiaeth o Hunaniaith ac am ddod ar adroddiad yma ymlaen,” meddai’r Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol Cyngor Gwynedd sy’n gyfrifol am yr iaith Gymraeg.

“Rydw i’n croesawu ei adroddiad a’r adolygiad annibynnol o Hunaniaith – mae’n gwneud synnwyr ar ôl deg mlynedd ein bod yn adolygu ac ystyried lle gallwn wella. Mae’n braf darllen am lwyddiant Hunaniaith mewn sawl maes yn yr adolygiad a hoffwn ddiolch i staff am eu gwaith gwych ac arloesol.

“Mae Gwynedd yn unigryw yng Nghymru fel cadarnle i’r Gymraeg – dyma rywbeth yr ydym yn falch iawn ohono ac yn rhywbeth yr ydym am ei drysori a’i feithrin i’r dyfodol. Mae’n gyffrous archwilio’r posibiliadau a’r cyfleoedd yn hyn o beth a bydd gan Hunaniaith yn ddi-os rôl allweddol  yn y gwaith ar draws Gwynedd.

“Rwy’n gobeithio y bydd y Cabinet yn cytuno gyda’r argymhelliad ac y byddwn yn gallu symud ymlaen i ddatblygu Hunaniaith yn y ffordd orau posib er mwyn sicrhau ei fod ar seiliau cadarn i dyfu ac adeiladu ar y gwaith arbennig sydd wedi ei gyflawni i’r dyfodol.”

Bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn ystyried y mater heddiw.