Mae Chris Bryant, ymgeisydd Llafur ar gyfer etholaeth Rhondda ac Ogwr, yn dweud bod helynt betio diweddaraf y Ceidwadwyr yn “eiliad syfrdanol arall” i’r blaid.

Daw hyn ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod ail ymgeisydd, Laura Saunders yng Ngogledd-orllewin Bryste, yn destun ymchwiliad i honiadau o fetio ar yr etholiad.

Mae ymgeisydd arall, Craig Williams ym Maldwyn a Glyndŵr ac un o gydweithwyr pennaf Rishi Sunak yn Downing Street, gyfaddef iddo yntau roi bet ar ddyddiad yr etholiad cyffredinol.

Mae Laura Saunders yn briod â Tony Lee, Cyfarwyddwr Ymgyrchu’r Ceidwadwyr, sydd bellach yn absennol o’r gwaith.

Yn rhinwedd eu cysylltiadau agos â phrif swyddogion y Ceidwadwyr, mae’n bosib iawn fod y ddau yn gwybod yn iawn beth fyddai dyddiad yr etholiad cyffredinol cyn betio.

Mae’r Comisiwn Gamblo yn cynnal ymchwiliad i’r honiadau.

“Eiliad syfrdanol arall,” meddai Chris Bryant am yr helynt.

“Pwy wyddai fod ganddyn nhw Gyfarwyddwr Ymgyrchu?”

Craig Williams: y Comisiwn Gamblo’n gofyn am wybodaeth am bob bet sylweddol

Mae ymgeisydd Maldwyn a Glyndŵr yn destun ymchwiliad ar ôl cyfaddef betio ar ddyddiad yr etholiad cyffredinol

“Tu hwnt i amgyffred” nad yw dau Geidwadwr wedi’u diarddel, medd Llafur Cymru

Mae Craig Williams wedi cyfaddef betio ar yr etholiad cyffredinol, tra bod Laura Anne Jones yn destun ymchwiliad yr heddlu

Galw am ymchwiliad ar ôl i ymgeisydd seneddol gyfaddef betio ar ddyddiad yr etholiad cyffredinol

Mae Craig Williams, ymgeisydd Maldwyn a Glyndŵr, yn un o gydweithwyr agosaf Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig