Dros y penwythnos roedd y Tour de France yn cychwyn, ac unwaith eto mae yna feicwyr o Gymru yn cymryd rhan. Dyma Tour rhif 13 Geraint Thomas rownd Ffrainc, ers yr un gyntaf iddo yn 2007. Ond fydd Geraint ddim yn anelu i gystadlu am y crys melyn wnaeth o wedi ennill yn 2018. Yn 38 oed, bydd y Cymro yn cefnogi Carlos Rodriguez ac Egan Bernal fel cyd-arweinwyr Tîm Ineos. Mae yna bosibilrwydd bydd e’n cael y cyfle i ennill un o’r cymalau, ond yn fy marn i mae’r Cymro arall yn y ras sydd yn fwy tebyg