Fe gawsom Ddiwrnod Windrush ar 22 Mehefin – diwrnod er mwyn coffáu ac anrhydeddu cyfraniad ymfudwyr i wledydd Prydain ar ôl y rhyfel. Mae’r dathliadau ar 22 Mehefin gan mai ar y diwrnod hwnnw yn 1948 glaniodd yr Empire Windrush, y cyntaf o’r llongau wnaeth gychwyn y mudo sylweddol o bobl o’r Caribî/y Gymanwlad.