Rai wythnosau yn ôl darllenais asesiad Golwg am Yr Ewros oedd ar fin dechrau. Llongyfarchiadau; roedd eich barn a’ch rhagfynegiadau yn gywir, (Spot On). Fe aethoch hyd yn oed i’r drafferth o’n rhybuddio ni i baratoi am y posibilrwydd o fuddugoliaeth i Loegr.

Gyda llaw, rwy’n clywed nad yw pêl-droed yn dod adref wedi’r cyfan.

Diolch i’r Nefoedd Wen am hynny, ddweda i. Byddwn byth wedi clywed y diwedd ohono.

Huw Davies

Teddington

Llundain