Peth anarferol, yn 2024, ydy darllen am bapur print a ddaeth i ben yn dychwelyd.
Ond dyna sydd wedi digwydd yn ardal Penllyn.
Ddydd Iau 11 Ebrill 2024, bron i 90 mlynedd ers ei sefydlu’n wreiddiol, cafodd rhifyn cyntaf papur newydd Y Cyfnod ar ei newydd wedd ei gyhoeddi. Mae’r pencadlys yng Nghanolfan Henblas wedi bod yn ferw o brysurdeb gyda phobol yn dod yno i brynu eu copi.
A dydy un datblygiad ddim yn ddigon i griw ardal y Bala, oherwydd yr wythnos ganlynol aeth ei chwaer-wasanaeth yn fyw. Tegid360 ydy enw gwefan fro newydd yr ardal sy’n ymestyn dros bum plwy Penllyn ac Edeyrnion. Mae’n lle i straeon amlgyfrwng gan bobol leol, ac yn ymuno â 13 gwefan fro arall sy’n rhan o rwydwaith Bro360.
“Rydym ni yn falch iawn o gael cyhoeddi menter newydd sbon i gyfoethogi bywydau pobol ardal y Bala,” medd Geraint Thomas o Lidiardau.
“Mewn partneriaeth â phapur newydd y Cyfnod rydym yn lansio gwefan fro newydd sbon – gwefan fydd yn fwrlwm o fywyd lliwgar yr ardal. Mae ’na hen edrych ymlaen i’r fenter gyffrous hon. Bydd Tegid360 yn cyfoethogi bywydau, ac yn gyfrwng fydd yn hybu prysurdeb pob cymdeithas, clwb a chymuned yn yr ardal.”
Hwb i’r ardal
“Mae’r ymateb wedi bod yn arbennig yma yn ardal Y Bala ymysg yr hen a’r ifanc, a dim ond ambell i gopi o’r rhifyn cyntaf sydd ar ôl” medd Lowri Rees-Roberts, Swyddog Prosiectau menter Pum Plwy Penllyn, sy’n cynnal y prosiect ar ran y gymuned.
“Mae cyhoeddi Y Cyfnod wedi bod yn hwb i’r ardal, a phawb wrth ei boddau ei fod yn ôl ar werth. Mae pawb yn awyddus i weld llwyddiant i’r papur wythnosol, a gobeithio y bydd modd parhau yn dilyn y cynllun peilot am 12 wythnos.”
Yn ystod y tri mis nesa, bydd 12 rhifyn o’r papur yn cael eu cyhoeddi, ac ar ddiwedd hynny bydd angen darganfod a fu’n arbrawf llwyddiannus ac a oes galw i barhau â’r fenter yn fasnachol.
Straeon lleol gan bobol leol
Un ffordd y gall pobol leol sicrhau parhad y papur a’r wefan ydy cyfrannu straeon. Gyda meddalwedd y wefan fro yn ei gwneud yn hawdd i bawb sy’n byw yn lleol gyfrannu stori, oriel luniau neu hyrwyddo digwyddiadau lleol ar Tegid360, y gobaith yw gweld pobol o bob cwr o’r fro’n cyfrannu hanesion eu mudiadau, newyddion a blogiau.
Straeon a fydd, yn y pen draw, yn gallu cael eu rhannu’n eang â phobol sydd â diddordeb yn yr hyn sy’n digwydd yn lleol, a hynny ar-lein ac yn y papur print.
Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu’n rhannol trwy raglen Grymuso Gwynedd, sef un o raglenni Menter Môn sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth ariannol hefyd gan y Gwasanaethau Adfer Niwclear (NRS) ar ran yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA). Mae hefyd yn un o brosiectau Ymbweru Bro gan gwmni Golwg, a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri.