Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio lansio her gyfreithiol dros arian fyddai wedi dod i Gymru’n sgil HS2 yn “arwydd pryderus” o’r hyn fyddai’n digwydd dan Keir Starmer fel Prif Weinidog, medd Plaid Cymru.

Ddechrau’r flwyddyn, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gadarnhau na fyddan nhw’n herio penderfyniad Llywodraeth San Steffan i beidio rhoi cyllid canlyniadol rheilffordd HS2 i Gymru.

Er bod trafnidiaeth wedi’i datganoli i Gymru, dydy isadeiledd rheilffyrdd ddim wedi’i ddatganoli ac felly dydy Cymru ddim yn derbyn arian sy’n adlewyrchu gwariant yn Lloegr – yn wahanol i’r Alban a Gogledd Iwerddon.

Pe bai Cymru’n cael ei thrin yn yr un modd â’r Alban a Gogledd Iwerddon, medd Plaid Cymru, byddai’n derbyn £3.9bn o arian canlyniadol.

Mewn ateb ysgrifenedig i gwestiwn gan Blaid Cymru, dywedodd Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru, na fyddan nhw’n herio’r mater.

“Mae ystyriaeth bellach wedi’i rhoi a’r canlyniad ydy y byddai’r disgresiwn ehangach sydd gan Drysorlys [y Deyrnas Unedig] yn gwneud hi’n annhebygol i unrhyw her lwyddo.”

‘Arwydd pryderus’

Yn sgil hynny, bydd Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, yn cyflwyno diwygiad yn y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried eu penderfyniad.

“Rydyn ni’n gwybod bod Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig eisiau tynhau’u gafael ar gyllid Cymru ac wedi bod yn benderfynol o gadw Cymru rhag symud yn ei blaen drwy beidio â thrin HS2 fel prosiect ar gyfer Lloegr yn unig,” meddai.

“Ond bydden ni wedi disgwyl gwell gan Lafur, plaid sy’n dweud eu bod nhw’n ‘sefyll dros Gymru’.

“Er bod Gweinidogion Llafur yn dweud eu bod nhw ar yr un ochr â Phlaid Cymru ar yr annhegwch am ddiffyg arian canlyniadol gan HS2, mae’n ymddangos nad ydyn nhw’n fwy na geiriau pan rydyn ni’n gweld eu hagwedd wrth weithredu ar y mater.

“Mae hwn yn arwydd pryderus o’r hyn fyddai’n digwydd pe bai Keir Starmer yn dod yn Brif Weinidog, ac mae peidio siarad am HS2 yn siarad cyfrolau am agwedd Llafur tuag at gyllid teg.”