Mae miloedd o grocodeils wedi dianc o fferm yn Ne Affrica.
Mi gawson nhw flas ar ryddid pan agorwyd giatiau argae oherwydd llifogydd.
Eisoes mae 2,000 o’r creaduriaid wedi eu dal a’u hanfon yn ôl i Fferm Grocodeils Rakwena sydd yng ngogledd De Affrica ar y ffin gyda Botswana.
Yn ôl gwefan y fferm maen nhw’n gwerthu hetiau a chydynau wedi eu gwneud o groen crocedils.
Bu llifogydd anferthol yng ngogledd De Affrica a Mozambique dros yr wythnos ddiwethaf.