Y tymor nesaf, bydd tîm pêl-droed Barcelona yn gwneud datganiad gwleidyddol clir ar y cae, gyda chrys newydd coch a melyn, i adlewyrchu baner Catalwnia.

Fel clwb mwyaf yr ardal, mae gan Barca hanes o gefnogi’r symudiad a’r iaith Gatalaneg, o ganlyniad i Sandro Rossell, arlywydd y clwb a chenedlaetholwr brwd.

Dywedodd yn ddiweddar ei fod eisiau i’r clwb gael ei adnabod am bwy ydyn nhw, “sef Catalaniaid”, ac y bydden nhw’n “aros yn driw i’w hanes a’u credoau”.

Mae’r crys, a fydd yn cael ei wisgo mewn gemau oddi cartref, yn adlewyrchu’r nifer fawr o gefnogwyr Barcelona sy’n teimlo’n driw i’w rhanbarth, ac mae’n symudiad beiddgar gan y clwb.

Bydd y crys newydd yn cael ei wisgo o’r tymor nesaf ymlaen.