Jacintha Saldanha Llun:PA
Mae corff y nyrs wnaeth, mae’n debyg, ladd ei hun ar ôl cael ei thwyllo gan alwad ffôn ffug am Dduges Caergrawnt, wedi cael ei gludo adref i India heddiw.

Yn teithio gyda chorff Jacintha Saldanha roedd ei gŵr, Benedict Barboza, a’u plant, Lisha (14 oed) a Junal (16 oed).

Bydd angladd Jacintha Saldanha yn cael ei gynnal yn nhref Shirva yn Karnataka fory.

Mae’r heddlu yno yn dweud eu bod nhw’n disgwyl y bydd 5,000 o bobl yn dod i’r angladd.

Mae marwolaeth Mrs Saldanha wedi ennyn llawer o sylw yn yr India lle magwyd hi.

Mi roedd hi wedi trosglwyddo’r alwad a dderbyniodd yn yr ysbyty preifat yn Llundain i’r ward lle’r oedd Duges Caergrawnt yn glaf. Gwnaethpwyd yr alwad gan ddau DJ o Awstralia.