Mae’r uwchgynhadledd i benderfynu cyllideb yr Undeb Ewropeaidd dros y saith mlynedd nesaf wedi dod i ben brynhawn yma, gyda’r gwleidyddion wedi methu â tharo bargen.

Er bod amryw o wledydd am barhau i drafod gwariant fe benderfynodd cadeirydd yr uwchgynhadledd Herman Van Rompuy i dynnu’r plwg, mae’n debyg ar ôl i Ganghellor yr Almaen, Angela Merkel, fynnu bod y gwahaniaethau rhwng arweinyddion y gwledydd yn rhy fawr.

Yn ystod ail ddiwrnod y trafodaethau galwodd David Cameron am dorri cyllideb yr Undeb Ewropeaidd yn hytrach na’i chodi, ac mae disgwyl nawr y bydd yr arweinwyr yn ail-afael yn y trafodaethau yn y flwyddyn newydd.

Roedd Angela Merkel o’r Almaen a Francois Hollande o Ffrainc eisoes wedi rhybuddio y gallen nhw fethu â tharo bargen yn yr uwchgynhadledd wrth i’r gwledydd frwydro i amddiffyn eu buddiannau.