Tra mae 3% yn fwy o ddefaid ag ŵyn yng Nghymru, mae nifer y moch wedi cynyddu 11% ers mis Mehefin y llynedd.
Bu cwymp bychan o 0.9% yn nifer y gwartheg yn y wlad.
Ym Mehefin eleni roedd 8.9 miliwn o ddefaid ac ŵyn.
“Daw’r cynnydd gan bod mwy o ŵyn yn cael eu geni wrth i ffermwyr gadw defaid sy’n fwy cynhyrchiol,” meddai John Richards o asiantaeth Hybu Cig Cymru.
Ychwanegodd ei bod yn braf ganddo weld stoc defaid Cymru yn sefydlogi wedi cwymp yn y niferoedd ar ddechrau’r ganrif hon.
Ac mae 28,700 o foch yng Nghymru, sef cynnydd o 11% ar nifer y llynedd.