Cafodd tri o bobl yn Israel eu lladd heddiw ar ôl i rocedi gael eu tanio mewn ymosodiad o Gaza, yn ôl swyddogion.

Roedd y rocedi wedi taro fflatiau, meddai’r llefarydd, ac mae’n debygol y bydd Israel yn ymateb yn llym ar y grŵp Palesteinaidd Hamas.

Roedd awyrennau, tanciau a llongau milwrol Israel wedi ymosod ar Lain Gaza ddoe wrth i Israel dargedu milwriaethwyr Islamaidd.

Yn dilyn dyddiau o ymosodiadau o Lain Gaza, fe ymatebodd Israel ddoe gan ladd comander adain filwrol Hamas Ahmed Jabari. Yn ddiweddarach fe ymosododd o’r awyr ar  fwy na 100 o dargedau milwrol.

Cafodd 10 o Balesteiniaid, gan gynnwys dau o blant, eu lladd a mwy na 93 eu hanafu.

Stad o argyfwng

Mae’r digwyddiadau diweddaraf wedi rhoi pwysau ychwanegol ar y berthynas fregus rhwng Israel a llywodraeth newydd Islamaidd yr Aifft.

Mae Hamas wedi cyhoeddi stad o argyfwng yn Gaza, gan symud pobl o adeiladau diogelwch a symud milwyr o’u safleoedd.

Mae ysgolion wedi cael gorchymyn i gau ac mae disgwyl i bobl aros yn eu cartrefi.