Mae corwynt wedi taro Jamaica heddiw gan gau meysydd awyr a gorfodi llongau pleser i osgoi’r ardal.

Mae’r heddlu wedi cyhoeddi cyrffyw er mwyn atal lladron wrth i’r storm agosáu at arfordir deheuol Jamaica.

Yn ôl rhagolygon y tywydd mae disgwyl i Gorwynt Sandy daro’r brifddinas Kingston cyn symud i ddwyrain Ciwba dros nos.

Roedd disgwyl hyd at 12 modfedd o law mewn rhai mannau yn Jamaica gyda gwyntoedd cryfion a llanw uchel.

Mae ’na bryder am ddiogelwch pobl sy’n byw mewn adeiladau bregus yn ardaloedd difreintiedig y wlad ac mae’r gwasanaethau brys wedi symud pobl sy’n byw mewn trefi ar hyd yr arfordir.

Roedd meysydd awyr Kingston a Bae Montego ar gau heddiw ac fe gyhoeddodd Royal Caribbean Cruises na fyddai’r llong Allure of the Seas yn stopio yn Falmouth yn Jamaica.