Achubwyr yn chwilio trwy'r rwbel
Mae  naw o weithwyr achub o Dde Cymru ar eu ffordd i Seland Newydd i helpu gyda’r chwilio am bobol yn y rwbel yn ninas Christchurch.

Fe fyddan nhw’n ymuno gydag eraill o wledydd fel yr Unol Daleithiau, Singapore a Japan wrth i’r wlad geisio dod tros un o’r trychinebau naturiol mwya’ yn ei hanes

Erbyn hyn, mae’r Llywodraeth yn dweud bod 75 o bobol wedi marw yn y daeargryn yno ond, yn ôl y Prif Weinidog, John Key, mae’r ffigwr yn debyg o godi eto.

Mae tua 300 o bobol yn dal i fod ar goll ond mae straeon yn dechrau dod am bobol sydd wedi cael dihangfa ryfeddol hefyd.

Adeiladau peryglus

Mae ardal eang o amgylch canol y ddinas wedi’i chau i bawb ond y timau achub, gyda rhai adeiladau’n dal i fod yn beryglus.

Un o’r rheiny yw adeilad tala’r ddinas, yr Hotel Grand Chancellor, sy’n sigledig iawn, ac mae’r ddinas yn dal i gael ei tharo gan gryndodau yn sgil y daeargryn,

Fe gyhoeddodd y Llywodraeth stad o argyfwng ar gyfer Seland Newydd i gyd, gyda John Kenya dweud bod rhan o Christchurch yng nghalonnau pawb.

Gobaith

Mae’r achubwyr yn canolbwyntio ar lefydd lle mae gobaith y bydd pobol wedi goroesi – dyw’r rheiny ddim yn cynnwys adeilad Canterbury TV lle mae cymaint â 100 o bobol ar goll.

Mae’n ymddangos bod saith adeilad lle mae pobol wedi’u dal ond mae pobol wedi gorfod cael eu symud o rai ardaloedd oherwydd craciau mewn bryn gerllaw.

Mae enwau 55 o’r cyrff bellach yn hysbys ond mae 20 arall yn aros heb eu hadnabod.