Arlywydd Syria, Bashar Assad (Agencia Brasil CCA 2.5)
Cynyddu mae’r tensiynau rhwng Syria a Twrci wrth i Syria wahardd awyrennau Turkish Airlines o’i gofod awyr.

Mae hyn yn digwydd dridiau ar ôl i Twrci orfodi awyren deithwyr ar ei ffordd o Moscow i Damascus i lanio yn Twrci a chipio’r hyn a ddisgrifiodd fel offer milwrol oddi ar ei bwrdd.

Mae’r berthynas rhwng y ddwy wlad sy’n ffinio â’i gilydd wedi dirywio’n gyson ers i’r gwrthryfel yn erbyn arlywydd Syria, Bashar Assad, gychwyn 19 mis yn ôl.

Mae Twrci’n ochri gyda’r gwrthryfelwyr gan ddarparu cefnogaeth wleidyddol, ac mae hefyd wedi taro’n ôl yn erbyn bomiau o Syria sydd wedi taro daear Twrci.

Mae Prif Weinidog Twrci, Recep Tayyip Erdogan, hefyd wedi beirniadu Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig am fethu â chytuno ar gamau penderfynol i orffen rhyfel cartref Syria.

“Os ydym yn disgwyl am un neu ddau aelod parhaol … yna fe fydd dyfodol Syria mewn perygl,” meddai, gan gyfeirio at Rwsia a China, sydd wedi rhoi feto ar gynigion i gynyddu’r pwysau ar Syria ac Assad.

Mae gweinidog tramor Twrci, Ahmet Davutoglu, wedi rhybuddio’n ogystal y bydd Twrci’n barod i ddefnyddio grym milwrol eto yn erbyn Syria os bydd yn ymosod. Roedd yn cyfeirio at ddigwyddiad yr wythnos ddiwethaf pryd y cafodd pump o bentrefwyr Twrci eu lladd gan fom a gafodd ei danio o Syria.