Mae Gwobr Heddwch Nobel wedi ei dyfarnu eleni i’r Undeb Ewropeaidd – fel cydnabyddiaeth o’i gyfraniad at heddwch a democratiaeth yn Ewrop ers dros 50 mlynedd.

“Mae’r rhan a chwaraewyd gan yr Undeb Ewropeaidd wedi helpu trawsnewid Ewrop o gyfandir o ryfel i gyfandir o heddwch,” meddai cadeirydd pwyllgor gwobrwyo Nobel yn Oslo, Thorbjoern Jagland.

Cododd yr Undeb Ewropeaidd o ludw’r Ail Ryfel Byd, er mwyn sicrhau uniad economaidd i rwystro gwledydd a fu’n elynion dros ganrifoedd rhag rhyfela yn erbyn ei gilydd byth eto.

Mae’r Undeb bellach yn cynnwys 500 miliwn o bobl mewn 27 o wladwriaethau, gyda rhagor yn awyddus i ymuno.

Mae pwyllgor Nobel wedi canmol yr Undeb Ewropeaidd hefyd am osod amodau llym yn mynnu ymrwymiad i ddemocratiaeth gan bob gwladwriaeth newydd sy’n ymuno â’r Undeb.