Naoto Kan
Mae statws credyd Japan wedi ei ostwng heddiw am y tro cyntaf ers bron i naw mlynedd.

Yn ôl Gwasanaethau Buddsoddi Moody, cafodd statws credyd Japan ei israddio, o lefel sefydlog i lefel negyddol, oherwydd pryderon am ddyled enfawr y wlad.

Dywedodd Moody mai’r ‘ansicrwydd cynyddol’ am allu llywodraeth Japan i gyflwyno a gweithredu mesurau effeithiol i reoli dyledion y wlad oedd yn bennaf gyfrifol am newid eu statws.

Mae dyled Japan eisoes ymysg y mwyaf ymysg yn y gwledydd datblygedig.

Yn ôl amcangyfrif y weinidogaeth gyllid ym mis Ionawr, fe fydd dyled gyhoeddus y wlad yn chwyddo i 997.7 triliwn yen (12 triliwn o ddoleri Americanaidd) erbyn Mawrth 2012, o 943 triliwn yen eleni.

Mae’r prif weinidog Naoto Kan yn ceisio gostwng y ddyled drwy ail-drefnu system dreth y wlad.

Ond yn ôl Moody, mae’n annhebygol y bydd gan Naoto Kan y gefnogaeth wleidyddol i gwblhau’r gwaith, wrth i bolau piniwn ddangos fod cefnogaeth ei lywodraeth wedi syrthio’n is nag 20%.

Mae ei gynllun yn wynebu cryn wrthwynebiad gan aelodau o bob cwr o’r sbectrwm gwleidyddol.

Mae cyfryngau Japan wedi awgrymu y bydd y Prif Weinidog yn ystyried ildio ei swydd os yw’r gwrthbleidiau yn fodlon derbyn ei gyllideb.