Abu Hamza
Yn Efrog Newydd, mae’r clerigwr dadleuol Abu Hamza wedi pledio’n ddieuog i gyhuddiadau ei fod wedi cynllwynio i sefydlu gwersyll ar gyfer hyfforddi terfysgwyr yn yr UDA.

Fe ymddangosodd Hamza mewn llys ffederal yn Manhattan.

Yn gynharach roedd dau derfysgwr honedig gafodd eu hestraddodi gyda Hamza wedi mynd gerbron llys arall yn Efrog Newydd.

Mae Khaled al-Fawwaz ac Adel Abdul Bary wedi cael eu cyhuddo o gynllwynio o osod bom yn llysgenadaethau’r UDA yn Affrica.