Cairo (Cynghrair Arabaidd CCA 2.0)
Mae David Cameron wedi hedfan i Cairo heddiw – yr ymweliad cyntaf gan arweinydd rhyngwladol â’r Aifft ers y protestio a gafodd wared ar yr Arlywydd Hosni Mubarak.

“Dyma gyfle gwych i ni siarad gyda’r rhai sy’n rheoli’r Aifft i wneud yn siŵr fod y trawsnewidiad o reolaeth filwrol i reolaeth sifil yn un gwirioneddol,” meddai David Cameron.

Roedd hefyd yn gyfle i weld be all gwledydd cyfeillgar fel Prydain a gwledydd eraill yn Ewrop ei wneud i helpu,” meddai.

Fe fydd David Cameron yn cynnal trafodaethau gydag arweinydd cyngor goruchaf byddin yr Aifft, y gweinidog amddiffyn Mohamed Tantawi a’r Prif Weinidog Ahmed Shafiq.

Fe fydd yn galw am ddileu cyfreithiau argyfwng sydd wedi bod mewn grym ers mwy na thri degawd.

Cyfarfod ymgyrchwyr

Mae cyfarfodydd gydag ymgyrchwyr gwrth-Mubarak hefyd wedi’u trefnu, er na fydd cynrychiolwyr o’r Muslim Brotherhood yn bresennol – y grŵp poblogaidd Islamaidd sydd wedi ennill peth cefnogaeth ond wedi’i wahardd o’r wlad.

Mae David Cameron wedi dweud dro ar ôl tro mai masnach ddylai fod yn flaenoriaeth o ran polisi tramor Prydain gan ddefnyddio cytundebau tramor i helpu i godi gwledydd Prydain allan o’i thrafferth economaidd.

Mae digwyddiadau diweddar wedi symud y ffocws tuag at ddiwygio gwleidyddol ac mae’n mynnu bod y mater hwnnw’n sylfaenol bwysig i gysylltiadau economaidd ac ymdrechion diogelwch.

Rhewi asedau Muabarak

Mae adroddiadau bod Llywodraeth newydd yr Aifft bellach yn y broses o rewi asedau’r Arlywydd Mubarak.

Mae prif erlynydd y wlad wedi dweud wrth y Gweinidog Tramor am ofyn i wledydd eraill rewi’r arian sydd mewn cyfrifon yn enw’r cyn-Arlywydd a’i deulu.

Mae’r rheiny’n cynnwys ei wraig, Suzanne, sy’n hanner Cymraes.