Ar ôl deuddydd o ymladd tanau fforestydd yn neheudir Sbaen, mae’r awdurdodau yno’n gobeithio bod y mwyafrif ohonyn nhw o dan reolaeth bellach.

Fe fu’n rhaid i filoedd o bobl ddianc o’u cartrefi ar ôl i’r tanau gychwyn mewn fforestydd gerllaw trefi twristaidd poblogaidd Malaga a Marbella ar y Costa del Sol fore ddoe.

Er bod y tanau’n dal i losgi mewn rhai ardaloedd, mae’r tanau o gwmpas y prif ardaloedd preswyl o dan reolaeth a llawer wedi cael dychwelyd i’w tai.

Mae byddin y wlad wedi bod yn helpu ymladd y tanau trwy anfon awyrennau a hofrenyddion i ollwng dŵr ar y fflamau.