Yahya Jammeh
Mae Amnest Rhyngwladol wedi dweud eu bod nhw wedi derbyn adroddiadau fod naw o garcharorion oedd wedi eu dedfrydu i farwolaeth wedi cael eu dienyddio dydd Iau.

Mae Arlywydd Yahya Jammeh wedi dweud y bydd y 47 carcharor yn y wlad sydd wedi eu dedfrydu i farwolaeth i gyd yn cael eu lladd erbyn y mis nesaf.

Y tro diwethaf i rywun cael eu dienyddio yn y Gambia oedd yn 1985.

Yn ôl Amnest Rhyngwladol, mi gafodd y naw carcharor, gan gynnwys un ferch, eu lladd nos Iau ddiwethaf.

Dywedodd Paule Rigaraud o Amnest Rhyngwladol fod nifer y rhai sydd wedi eu dedfrydu i farwolaeth yn Gambia yn garcharorion gwleidyddol.

Mae’r Undeb Affricanaidd wedi galw ar Arlywydd Jammeh i roi stop ar y lladd. Mae’r Arlywydd wedi cael ei feirniadu droeon gan sefydliadau rhyngwladol oherwydd ei agwedd tuag at hawliau dynol.