Mi wnaeth Tom Jones wneud argraff fawr ar y dorf mewn gŵyl gerdd ym Melfast neithiwr.

Derbyniodd bonllefau o gymeradwyaeth ar ddiwedd ei berfformiad oedd yn un llawn egni. Mae’n anodd credu ei fod yn 72 oed.

Roedd Syr Tom yn perfformio yng ngŵyl gerdd Belsonic.

“Mi gawson ni amser gwych i fyny fan hyn a dwi’n gobeithio eich bod chithau hefyd,” meddai Tom wrth y dorf.

Y mis diwethaf wnaeth e ddim perfformio mewn cyngherddau ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Llundain ac ar Ynys Wyth oherwydd ei fod wedi cael haint ar ei frest a broncitis. Ond mae’n amlwg o’i berfformiad neithiwr ei fod wedi gwella’n dda erbyn hyn.

Mae Gŵyl Belsonic yn para dros 10 diwrnod. Mae’r artistiaid eraill sy’n ymddangos yno eleni yn cynnwys Emeli Sande, Madness, a James Morrison.