Mae merch ifanc oedd wedi diflannu dros ddwy flynedd yn ôl wedi dod i’r fei, gan ddweud wrth yr heddlu ei bod hi wedi ei chaethiwo a’i threisio sawl gwaith.

Mae’r heddlu bellach wedi dwyn cyrch yn erbyn y tŷ yn nhalaith Illinois gan arestio dyn 24 oed a’i fam.

Dywedodd y ferch ei bod hi wedi rhoi genedigaeth i ferch o ganlyniad i gael ei threisio. Daeth yr heddlu o hyd i ferch dwy oed yn y tŷ.

Mae’r heddlu yn credu bod mam y dyn wedi ei helpu i gyflawni’r troseddau.

Dyw’r un o’r ddau wedi eu henwi am nad ydyn nhw wedi eu cyhuddo.

Dywedodd yr heddlu bod y ferch ifanc wedi diflannu ym mis Ebrill 2010, yn 15 oed.