Antonis Samaras
Mae Prif Weinidog Gwlad Groeg wedi mynnu nad yw Athen eisiau rhagor o arian gan gredydwyr, ond mae wedi awgrymu yr hoffai gael mwy o amser i gyflwyno diwygiadau a thoriadau mewn gwariant.

Daeth sylwadau Antonis Samaras cyn ei ymweliad â’r Almaen lle bydd yn cwrdd â’r Canghellor Angela Merkel ac Arlywydd Ffrainc Francois Hollande ddydd Gwener.

Cyn iddo gael ei benodi, roedd Antonis Samaras wedi addo y byddai’n ceisio ymestyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno toriadau amhoblogaidd oedd yn rhan o’r cytundeb ar gyfer derbyn pecyn ariannol gwerth £189 biliwn.

Ond mae credydwyr fel yr Almaen wedi bod yn amharod i wneud consesiynau sylweddol oherwydd methiant Gwlad Groeg i gyflwyno diwygiadau a mesurau i dorri costau.

Yn ôl papur newydd Bild, roedd Antonis Samaras wedi dweud nad oedden nhw’n gofyn am ragor o arian, ond am ychydig mwy o amser i gael yr economi yn ôl ar ei thraed.

Roedd  Samaras wedi gwrthod awgrymiadau y byddai’n well i Wlad Groeg adael yr ewro a dychwelyd i’w hen arian, y drachma.

Dywedodd y byddai hynny’n “drychineb i Wlad Groeg” ac yn arwain at fethiant llwyr yr economi.

Mae gan y wlad ddyledion o £236 biliwn ac mae diweithdra yno dros 23%.