Tyfodd economi’r Almaen 0.3% yn ystod yr ail chwarter eleni, er gwaethaf problemau parth yr ewro.
Mae Swyddfa Ystadegau Ffederal y wlad yn awgrymu bod twf allforion a pharodrwydd pobol i wlad i brynu wedi bod yn hwb i’r economi.
Roedd y twf yn uwch na’r 0.2% yr oedd nifer o economegwyr wedi ei ragweld, ond yn is na’r twf 0.5% yn chwarter cyntaf y flwyddyn.
Mae’r llywodraeth yn rhagweld twf 0.7% eleni, er bod rhagolygwyr eraill yn dweud y bydd yr economi yn tyfu mwy na hynny.