Yr Arlywydd Bashar Assad
Mae prif weinidog Syria wedi ffoi i wlad yr Iorddonen gyda’i deulu ar ôl llai na deufis yn y swydd.

Roedd tri o weinidogion eraill y cabinet wedi ymuno â Riad Hijab, yn ôl ffynonellau ar ran gwrthryfelwyr Syria.

Nhw yw’r gweinidogion cyntaf i ffoi, gan danlinellu’r rhwyg o fewn llywodraeth yr Arlywydd Bashar Assad.

Yn ôl teledu llywodraeth Syria roedd Riad Hijab wedi cael ei ddiswyddo.