Carwyn Jones
Mae’r Archdderwydd wedi defnyddio ei araith o’r Maen Llog heddiw i “erfyn” ar Brif Weinidog Cymru i roi’r gorau i’r syniad o wahodd llogau tanfor niwclear i Sir Benfro.

Yn ei araith ola’ yn y swydd, mae Jim Parc Nest yn dyfynnu’r beirdd, Iolo Morganwg a Waldo Williams, er mwyn ceisio cael y neges adre’ i Carwyn Jones, a fydd yn cael ei dderbyn yn aelod anrhydeddus o’r Orsedd fore Gwener.

Mae’n ymbil “yn ysbryd cyfeillgar Waldo, y bardd o Sir Benfro, a phrifardd y tangnefeddwyr”, meddai, ac yn dweud y byddai’r “perygl o angori llongau tanfor niwclear yn Aberdaugleddau filwaith yn fwy peryglus nag ydoedd claddu arfau yn Nhre-cwn”.

“Yn Eisteddfod Bro Morgannwg cofir am Iolo Morganwg, yr athrylith a sefydlodd yr Orsedd,” meddai Jim Parc Nest wedyn. “Byddai yntau’n unfryd a Waldo yn erbyn ‘y gallu gau’.

“Ar hyd ei oes, gwrthwynebodd bob grym a beryglai fywyd… y grym a roddai flaenoriaeth i ymladd rhyfel yn erbyn Ffrainc yn hytrach nag yn erbyn caethwasiaeth.

“O barch i’r ddau athrylith, Iolo a Waldo, rwy’n erfyn arnat, Carwyn, i ailystyried gwasanaethu’r ‘gallu gau’, ac i’n codi ni ag urddas dy swydd aruchel ‘i fro’r awelon pur o’n hogofau’.

Cwestiwn y drons
“I gloi, carwn i ti ateb un cwestiwn,” meddai Jim Parc Nest eto. “Beth yw dy farn am system annynol yr awyrennau di-beilot, y drons, sy’n cael eu meithrin un Aberporth, yr unig le yng ngwledydd Prydain sy’n nythu’r adar angau hyn er mwyn eu hymarfer?

“Rwy’n deall dy edmygedd di o ddewrder milwr sy’n barod i’w beryglu ei hunan er mwyn eraill. Ond gyda’r ddyfais ddieflig hon, gall y cachgi pennaf ladd miloedd diniwed.

“Fore Gwener nesaf, cei dithau, Carwyn, dy dderbyn yn aelod anrhydeddus o’r Orsedd, am dy ymroddiad amlwg i’r iaith Gymraeg a’i diwylliant. Fe gei di gwmni amryw o gyfeillion haeddiannol eraill, ac fe gawn i gyd, gobeithio, ein codi o’n hogofau i ‘fro’r awelon pur’.”