Mae cannoedd o brotestwyr wedi ymgasglu ar strydoedd Libya heddiw gan fynnu bod arweinwyr y wlad yn camu o’r neilltu.

Mae’r wlad wedi ei lleoli rhwng yr Aifft a Thunisia, dwy wlad sydd wedi gweld protestio chwyldroadol ers dechrau’r flwyddyn.

Yn ôl adroddiadau mae protestwyr yn ninas Benghazi Libya wedi bod yn galw am ymddiswyddiad y prif weinidog Baghdadi al-Mahmoudi.

Ond dyw’r protestwyr heb alw hyd yma ar yr arlywydd Muammar al-Gaddafi i gamu o’r neilltu.

Mae dinasyddion Libya wedi bod yn defnyddio gwefannau sgwrsio gan gynnwys Facebook i alw am ddiwrnod mawr o brotestio yfory.