Gu Kailai a Bo Kilai
Mae gwraig arweinydd gwleidyddol o Tsieina, Bo Xilai, wedi cael ei chyhuddo o lofruddiaeth.

Mi roedd Gu Kailai wedi bod yn cael ei holi ynglŷn â marwolaeth gŵr busnes o Brydain, Neil Heywood.

Cafodd ei gorff ei ddarganfod mewn gwesty yn Chongging ar 15 Tachwedd.

Mae Zhang Xiaojun, oedd yn gweithio yng nghartref Mr Bo, hefyd wedi cael ei gyhuddo o wenwyno Mr Heywood.

Mi roedd Bo Kilai yn arweinydd gwleidyddol amlwg yn Chongging ond fe gafodd ei ddiswyddo ym mis Mawrth eleni. Yr honiad ydi ei fod wedi torri rheolau’r Blaid Gomiwnyddol.