Ffrwydrad yn Syria
Am y pedwerydd diwrnod yn olynol mae brwydro ffyrnig ym mhrifddinas fasnachol Syria, Aleppo.
Aleppo yw dinas fwyaf y wlad, a chanddi 3m o drigolion. Ddydd Sul cafodd cynghrair o grwpiau gwrthryfelgar ei ffurfio er mwyn rhyddhau’r ddinas o afael lluoedd yr Arlywydd Assad.
Mae’n ymddangos fod Damascus yn ôl yn nwylo lluoedd Assad ar ôl brwydro ffyrnig yr wythnos ddiwethaf.
Mae Barack Obama wedi rhybuddio Syria i beidio defnyddio arfau cemegol ar ôl i Ddamascus gydnabod ddoe fod ganddyn nhw gemegau ac y bydden nhw’n eu defnyddio yn erbyn “ymosodiadau o dramor”, ond nid ar drigolion y wlad.
Mae Prif Weinidog Twrci, sy’n ffinio gyda Syria, wedi dweud fod pobol Syria yn “agos at fuddugoliaeth” ac y bydd llywodraeth Assad yn disgyn.
Ond mae Syria’n parhau i dderbyn cefnogaeth gan gymydog agos arall, Iran, ac mae Rwsia a China yn ei chadw rhag derbyn beirniadaeth gan Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig.