Gorfodwyd tad a mab i neidio i’w marwolaeth ar ôl cael eu caethiwo yn eu car gan dân tra ar wyliau yn Sbaen.
Neidiodd tad, mam a tri o’u plant 160 o droedfeddi i’r môr ar ôl cael eu gorfodi o’u car wedi iddo gael ei amgylchynu gan fflamau.
Goroesodd y fam a’r ddau blentyn arall y naid.
Roeddent yn teithio ar draws ffin Sbaen i mewn i Ffrainc ar ddiwedd eu gwyliau.
Cafodd 1,400 o bobol eu gorfodi i aros noson mewn lloches nos a bu farw dau arall o ganlyniad i’r tân.
Mae’r gwynt gogleddol, o’r enw Tramontana, yn nodwedd gyson o fywyd mynyddog yng ngogledd-ddwyrain Sbaen gyda gwyntoedd cryfion, hyd at 100mya ar brydiau, yn lledaenu fflamau.