Kofi Annan
Mae Rwsia yn parhau i wrthdaro gyda’r UDA a chynghreiriaid Ewrop cyn pleidlais Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig heno i geisio dod i gytundeb ynglŷn â Syria.
Pylu mae’r gobeithion y bydd Rwsia yn cefnogi cynllun i geisio dod â diwedd i’r rhyfel sifil yn Syria sydd wedi para am 17 mis.
Mae Rwsia yn gwrthwynebu cyflwyno sancsiynau yn erbyn Syria neu ddefnyddio grym i ddod â diwedd i’r trais.
Mae’r llysgennad rhyngwladol Kofi Annan wedi bod yn cynnal trafodaethau yn Rwsia ers deuddydd, gan gynnwys cyfarfod gyda’r Arlywydd Vladimir Putin.
Mae wedi annog pawb i “dynnu at ei gilydd er mwyn symud ymlaen”.
Mae Rwsia a China wedi cael eu beirniadu am wrthod caniatáu i’r Cenhedloedd Unedig gynyddu’r pwysau ar yr Arlywydd Assad.