Prifysgol Fetropolitan Caerdydd
Mae Plaid Cymru wedi beirniadu’r Gweinidog Addysg am fynnu bod Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yn uno gyda dwy brifysgol arall, yn groes i’w hewyllys.

Dywedodd Simon Thomas AC fod Plaid Cymru yn gefnogol i’r egwyddor o “uno gwirfoddol” rhwng tair o brifysgolion y de-ddwyrain, ond bod penderfyniad Leighton Andrews i orfodi uno yn anghywir.

“Rydym ni’n hollol wrthwynebus i fwriad y Gweinidog Addysg i orfodi prifysgolion i uno pan maen nhw wedi penderfynu nad yw hynny o fudd iddyn nhw,” meddai Simon Thomas, llefarydd addysg Plaid Cymru.

“Hyd yn hyn does dim achos busnes o blaid yr uno. Mae angen i’r Gweinidog ddod â manylion a chynlluniau wedi eu costio gerbron y Cynulliad cyn ein bod ni’n medru ystyried ein cefnogaeth i’r mater.”

‘Dim tystiolaeth’

Mae Ceidwadwyr Cymru wedi cyhuddo’r Gweinidog Addysg o “fwlio” ac o geisio cael enw amheus fel “un o’r ychydig weinidogion yn hanes y DU i orfodi diddymiad prifysgol.”

Mewn ymateb i ddatganiad Leighton Andrews dywedodd Prifysgol Fetropolitan Caerdydd nad oes tystiolaeth wedi cael ei chynnig o blaid yr uno ac y byddan nhw’n ystyried eu camau nesaf.

Dywedodd Leighton Andrews y bydd yn cynnal ymgynghoriad ar y cynllun i ddiddymu Prifysgol Fetropolitan Caerdydd fel rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru i ad-drefnu addysg uwch yng Nghymru.

Os yw’r cynllun yn cael ei gymeradwyo fe all prifysgolion Morgannwg, Casnewydd a Metropolitan Caerdydd uno mor fuan â 2015.