Mae gweinidogion cyllid Ewrop wedi dod i gytundeb ynglŷn ag amodau benthyciad ariannol i fanciau Sbaen.

Fe fydd 30 biliwn ewro ar gael i’r banciau erbyn diwedd y mis.

Fe fydd y gweinidogion cyllid, sy’n cynrychioli 17 o wledydd sy’n defnyddio’r ewro, yn dychwelyd i Frwsel ar 20 Gorffennaf er mwyn cwblhau’r cytundeb.

Fel rhan o’r cytundeb gyda Sbaen, mae disgwyl i weindiogion cyllid o 27 o wledydd yr Undeb Ewropeaidd gytuno i roi blwyddyn ychwanegol i Sbaen wneud arbedion o 3% yn ei chyllid, i 2014.