Mae 16 o lowyr wedi bod yn gaeth dan ddaear ers mwy na 24 awr yn ne Cheina.
Mae timau achub wedi bod yn pwmpio dŵr o’r pwll, yn ôl Gwasanaeth Newyddion Cheina (CNS), ond does dim sôn am gyflwr y glowyr sy’n gaeth.
Yn ôl CNS, roedd rheolwyr y pwll yn nhalaith Hunan wedi methu â rhoi gwybod am y ddamwain o fewn yr amser penodedig. Mae rheolwyr yn aml yn gwneud hyn i roi amser ychwanegol iddyn nhw achub y glowyr eu hunain neu geisio celu’r ddamwain, er mwyn osgoi cael eu cosbi.
Mae pyllau glo Cheina ymhlith y rhai mwyaf peryglus er bod nifer y marwolaethau wedi gostwng erbyn hyn.