Hywel Poole
Roedd un o beilotiaid y Llu Awyr, a fu farw yn dilyn damwain rhwng dwy jet Tornado  yn yr Alban ddydd Mawrth, yn dod o Gymru.

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn Philip Hammond heddiw enwau’r rhai a fu farw pan fu’r ddwy awyren jet mewn gwrthdrawiad uwchben y Moray Firth.

Roedd Awyr Lefftenant Hywel Poole yn 28 oed. Roedd wedi cael ei eni ym Mangor, a bu farw yn y gwrthdrawiad.

Roedd wedi bod yn hyfforddi ar yr awyren TornadoGR4 ers mis Tachwedd y llynedd. Cyn hynny, roedd wedi bod yn gweithio yng Nghanolfan yr Awyrlu yn y Fali ar Ynys Môn. Tra’n ddisgybl yn Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy bu’n aelod o garfan hwylio Cymru a Phrydain.

Dywedodd Asgell Gomander Jonathan Moreton ei fod yn beilot “galluog a hyderus oedd â phersonoliaeth heintus”.

Roedd wedi sefydlu ei hun yn gyflym fel peilot medrus a hyderus iawn. Roedd yn fyfyriwr poblogaidd iawn, meddai.

Dywedodd ei fod bob amser yn fodlon gwirfoddoli i hel arian at elusennau, yn cynnwys Help for Heroes.

Dywedodd y byddai’n cael ei golli’n fawr gan bawb. “Mae ein meddyliau gyda’i deulu a’i ffrindiau yn ystod y cyfnod hynod o anodd hwn,” meddai.

Mae dau berson arall ar goll sef Sgwadron Bennaeth Samuel Bailey, 36,  oedd yn dod o Nottingham yn wreiddiol, ac Awyr Lefftenant Adam Sanders, 27,  oedd wedi derbyn ei addysg yn swydd Gaerhirfryn.

Anafwyd person arall yn y ddamwain, ac mae mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty. Nid yw ei enw wedi cael ei gyhoeddi.