Mae nifer y bagiau plastig untro a gafodd eu dosbarthu gan archfarchnadoedd trwy’r DU y llynedd wedi codi 5%.

Mae ffigurau sydd wedi cael eu rhyddhau gan y corff lleihau gwastraff Wrap heddiw yn dangos fod un person yn defnyddio 11 bag mewn mis, ar gyfartaledd.

Ond mae llai o fagiau wedi cael eu defnyddio mewn archfarchnadoedd yng Nghymru, gyda 22% yn llai o fagiau yn cael eu defnyddio o’i gymharu â’r llynedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau codi 5c am fag siopa untro ers mis Hydref y llynedd.

Mi wnaeth Llywodraeth yr Alban ddechrau codi 5c am fag yr wythnos ddiwethaf ond does dim newid arwyddocaol i’w weld yno eto.

Cyhoeddwyd ffigurau gan fanwerthwyr ddoe oedd hefyd yn cadarnhau bod y defnydd o fagiau siopa untro yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol ers i Lywodraeth Cymru ddechrau codi 5c am fag siopa.

Yn ôl y ffigurau gan fanwerthwyr, mae gostyngiad o 96% wedi bod mewn rhai sectorau. Mae’r ymchwil hefyd yn dangos bod 70% o bobl Cymru bellach yn cefnogi’r tâl am fag untro.

Mae nifer o brosiectau amgylcheddol ac achosion da hefyd wedi elwa o’r tâl am fagiau untro – mae’r elusen Cadwch Gymru’n Daclus wedi derbyn £105,000 ers mis Hydref.

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd John Griffiths: “Mae’r ffigurau heddiw yn ganlyniad gwych i bobl a busnesau Cymru. Mae pobl Cymru wedi addasu’n ardderchog i’r tâl am fagiau untro ac mae’r mwyafrif bellach yn mynd â’u bagiau eu hunain gyda nhw pan maen nhw’n mynd i siopa.

“Y neges syml ydi, ewch â bag gyda chi pan da chi’n mynd i siopa.”

Dywedodd Bob Gordon o’r Consortiwm Manwerthu Prydeinig fod y defnydd o fagiau wedi codi ar draws Prydain gan fod pobl yn newid y ffordd maen nhw’n siopa oherwydd cyfyngiadau ariannol.

Roedd mwy o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wrth siopa ac yn siopa sawl gwaith yr wythnos yn hytrach na gwneud un daith siopa fawr, meddai. Roedd angen mwy o fagiau arnyn nhw, felly.

Doedd hi ddim yn syndod fod y nifer o fagiau a ddefnyddiwyd yng Nghymru wedi gostwng, meddai. Os oedd gostwng y defnydd o fagiau plastig yn flaenoriaeth gan lywodraethau eraill, fe ddylen nhw ddefnyddio system debyg i’r un yng Nghymru, ychwanegodd.