Mae chwech o bobl gan gynnwys pedwar o blant wedi boddi mewn llifogydd yng ngogledd Twrci, yn ôl asiantaeth newyddion y wlad heddiw.
Mae’n debyg bod glaw trwm wedi achosi i afon orlifo’i glannau yn hwyr ddoe, gan ddifrodi cartrefi a siopau yn ninas Samsun.
Roedd dau frawd, 1 a 5 oed, a thad a’i ddau fab, 9 a 16 oed, wedi boddi pan lifodd y dŵr i mewn i’w cartrefi.
Mae’r awdurdodau hefyd wedi dod o hyd i gorff dynes mewn rhan arall o’r ddinas.