Storm Unol Daleithiau
Mae o leiaf 13 o bobol wedi marw, ac mae tair miliwn heb drydan, ar ôl tywydd difrifol yn nwyrain yr Unol Daleithiau.

Fe fu farw chwech o’r cyfanswm yn Virginia, gan gynnwys dynes 90 oedd yn cysgu yn ei gwely pan syrthiodd coeden ar ei thŷ.

Cafodd dau gefnder ifanc yn New Jersey hefyd eu lladd pan syrthiodd coeden ar eu pabell wrth iddyn nhw’n gwersylla.

Fe fu farw dau arall yn Maryland, ac un yn Ohio, Kentucky a Washington.

Dywedodd swyddogion ynni na fydd y trydan yn ei ôl am rai dyddiau, gan ychwanegu bod y difrod cyfystyr â chorwynt difrifol.

Dywedodd llywodraethwr Virginia, Bob McDonnell, bod ei dalaith wedi dioddef y toriad trydan fwyaf yn ei hanes o ganlyniad i storm gyffredin.

“Mae’n sefyllfa beryglus iawn,” meddai.

Treuliodd 232 o deithwyr nos Wener ar drên yn West Virginia ar ôl i goed ddisgyn ar y rheilffordd yn y ddau gyfeiriad.