Mae llywodraeth Syria wedi dweud heddiw ei bod yn barod i symud pobl o ddinas Homs.
Roedd datganiad gan y gweinidog tramor yn cyhuddo “grwpiau terfysgol arfog” o rwystro eu hymdrechion i symud pobl o’r ddinas sydd wedi bod ynghanol ymosodiadau ffyrnig dros yr wythnosau diwethaf.
Roedd y Cenhedloedd Unedig wedi mynnu ddydd Sul bod y ddwy ochr yn caniatáu i ferched, plant a chleifion i adael y ddinas.
Yn ôl adroddiadau mae hyd at 1,000 o deuluoedd wedi methu â gadael y ddinas wrth i luoedd y Llywodraeth ymosod ar y gwrthryfelwyr. Mae llywodraeth Syria yn aml yn cyfeirio at y gwrthryfelwyr fel “terfysgwyr.”
Mae’n debyg bod y gwrthdaro wedi parhau heddiw gan ei gwneud yn anoddach i drefnu bod pobl yn gadael Homs.