Protest yn y brifddinas, Algiers, ym mis Rhagfyr (Djamel Boussouh CCA 2.0)
Mae adroddiadau bod cannoedd o heddlu’n casglu yng nghanol prifddinas Algeria, gyda disgwyl protest ddemocratiaeth yno.

Er bod gwrthdystiadau cyhoeddus wedi eu gwahardd, mae mudiad o’r enw’r Cydweithrediad er Newid Democrataidd yn dweud y byddan nhw’n parhau â’u protest.

Mae rhywfaint o helynt wedi bod yn y wlad Affricanaidd ers mwy na mis a’r gred yw y bydd teimladau wedi eu tanio ymhellach gan ddigwyddiadau’r Aifft yn ystod y dyddiau diwetha’.

Fe lwyddodd pobol yn y wlad drws nesa’, Tunisia, i ddisodli eu harlywydd ar 14 Ionawr.

Y cefndir

Er mwyn ceisio llacio rhywfaint ar y tyndra, roedd Arlywydd Algeria, Abdelaziz Bouteflika, wedi dileu’r Cyflwr Argyfwng sydd wedi bod yn y wlad ers 1992.

Dyna pryd y dechreuodd gwrthryfel gan garfan Islamaidd eithafol – y gred yw bod cymaint â 200,000 o bobol wedi eu lladd yn ystod yr ymladd hwnnw.