Aung San Suu Kyi
Fe fydd arweinydd y blaid ddemocrataidd yn Burma, Aung San Suu Kyi, yn cyrraedd Dulyn heddiw ar ymweliad chwe awr â phrifddinas Iwerddon.
Mae disgwyl i filoedd o gefnogwyr ddod i glywed anerchiad gan gyn-enillydd Gwobr Heddwch Nobel wrth iddi dderbyn rhyddid y ddinas – 12 mlynedd ar ôl iddi gael yr anrhydedd.
Fe fydd y canwr Bono a Syr Bob Geldof hefyd yn cynnal cyngerdd arbennig iddi.
Cafodd Aung San Suu Kyi, 66, ei chadw dan glo yn 1989 ac fe dreuliodd 15 mlynedd dros y 21 mlynedd ganlynol yn cael ei chyfyngu i’w thŷ nes iddi gael ei rhyddhau ym mis Tachwedd 2010.