Hosni Mubarak - wedi ymddiswyddo
Mae Is-arlywydd Yr Aifft wedi cyhoeddi bod yr arlywydd y wlad, Hosni Mubarak, wedi rhoi’r gorau i’w swydd.

Fe ddaeth y cyhoeddiad gan Omar Suleiman mewn anerchiad byr ar deledu’r wlad.  Mae’r fyddin wedi cymryd yr awenau yn ôl yr is-lywydd.

Fe ddaw teyrnasiad 30 mlynedd Hosni Mubarak i ben ar ôl i filoedd o brotestwyr wrthdystio yn Cairo a dinasoedd eraill Yr Aifft yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Mae tua miliwn yn strydoedd y brifddinas heddiw, ar ôl anerchiad teledu neithiwr pan aeth yr Arlywydd Mubarak yn groes i ddisgwyliadau pobol a gwrthod ymddiswyddo.

Tan hyn, roedd yr Arlywydd wedi mynnu bod rhaid iddo ddal ati nes y bydd etholiadau ym mis Medi.

Ond mae’r protestwyr erbyn hyn yn dathlu, gydag un o’r ymgyrchwyr mwya’ blaenllaw tros ddemocratiaeth yn Yr Aifft, Mohamed ElBaradei yn ymateb i’r newyddion trwy ddweud: “Dyma ddiwrnod gorau fy mywyd.  Mae’r wlad wedi cael ei rhyddhau wedi degawdau o ormes.”