Mae’r asiantaeth gredyd Moody’s wedi israddio saith o fanciau yn yr Almaen, oherwydd pryderon am argyfwng yr ewro a rhagolwg gwael yn nhwf yr economi yn fyd eang.
Un o’r banciau mwyaf i gael eu hisraddio yw Commerzbank AG, ail fanc fwyaf yr Almaen.
Ymhlith y banciau eraill i gael eu hisraddio mae DekaBank a DZ Bank, yn ogystal â thri o fanciau’r sector cyhoeddus yn yr Almaen, Landesbank Baden-Wuerttemberg, Norddeutsche Landesbank a Landesbank Hessen-Thueringen.
Mae economi’r Almaen yn parhau i ffynnu tra bod economïau gwledydd eraill parth yr ewro yn fregus.