Mae o leia’ 22 o bobol wedi eu lladd a 50 wedi eu hanafu mewn dau ffrwydrad yn Afghanistan.
Fe ddigwyddodd y ddau mewn ardal i lorïau sy’n gwasanaethu un o brif ganolfannau byddin yr Unol Daleithiau, ger dinas Kandahar yn ne’r wlad.
Yn ôl adroddiadau lleol, roedd y ffrwydradau wedi eu hachosi gan ddau hunan fomiwr, gyda’r cynta’n cyrraedd ar fotobeic.
Wrth i bobol ruthro i helpu ar ôl y ffrwydrad cynta’ fe gafodd ail fom ei ffrwydro gan ymosodwr ar droed.
Ar hyn o bryd, mae’n ymddangos mai pobol gyffredin yw’r cyfan o’r meirw.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad rhyw dair milltir o brif fynedfa’r ganolfan ond llai na hanner milltir o un o ganolfannau byddin Afghanistan ei hun.