Mae chwech o bobl wedi marw a chwech arall wedi cael eu hanafu mewn damwain awyren ym maes awyr Corc yng ngweriniaeth Iwerddon.

Aed â’r chwech a gafodd eu hanafu i Ysbyty Prifysgol Corc, lle mae pedwar yn dioddef o anafiadau difrifol, ond llwyddodd y ddau arall i gerdded allan o’r awyren.

Roedd yr awyren, a oedd yn cludo deg teithiwr a dau aelod o griw, wedi hedfan o Belffast am 8.12 y bore yma pan ddisgynnodd ar redfa ym Maes Awyr Corc ychydig cyn 10.00. 

Fe ddywedodd Awdurdod Hedfan Iwerddon fod yr awyren Manx 2 wedi disgyn ar y drydedd ymgais i lanio mewn amodau niwlog.

Mae Brian Cowen a Peter Robinson, Prif Weinidogion y Weriniaeth a Gogledd Iwerddon, wedi estyn eu cydymdeimlad â theuluoedd y rhai a gafodd eu lladd.

“Hoffwn hefyd anfon fy nymuniadau gorau a dymuniadau gorau’r Llywodraeth, i bawb sydd wedi goroesi’r ddamwain ac sy’n cael eu trin yn yr ysbyty ar hyn o bryd,” meddai Brian Cowen.

“Hoffwn hefyd ganmol gwaith yr amrywiol griwiau achub a phawb a fu’n gweithio i helpu’r rhai oedd yn y ddamwain.”

Wrth estyn ei gydymdeimlad a’i ddymuniadau gorau yntau, fe ychwanegodd Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon, Martin McGuinness, y bu’n agos iddo ef deithio ar yr awyren.

“Dyma daith yr ydw i wedi ei gwneud amryw o weithiau,” meddai. “Yn wir, dw i am fod yn Munster yfory ac ro’n i wedi ystyried mynd ar yr awyren yma, ond fe wnes i newid fy nghynlluniau am wahanol resymau.”