Mark Zuckerberg, sefydlydd Facebook
Bydd dau banel o lywodraeth yr Unol Daleithiau yn ymchwilio i werthiant cyfranddaliadau Facebook ar y farchnad stoc yn dilyn honiadau bod y banc oedd yn delio â’r gwerthiant wedi rhoi asesiad negyddol o’r cwmni i gleientiaid penodol yn unig.
Dywedodd Tim Johnson sy’n Gadeirydd y Pwyllgor Bancio Seneddol bod y panel am wybod mwy am y gwerthiant.
Dechreuodd y rhwydwaith cymdeithasol fasnachu yn gyhoeddus ddydd Gwener.
Mae’r pwyllgor yn ceisio trefnu sesiynau briffio gyda chynrychiolwyr asiantaethau rheoleiddio ac eraill ynglŷn â’r mater.
Ar ôl y sesiynau briffio bydd Tim Johnson yn penderfynu a ddylid cynnal gwrandawiad.
Mae’n dilyn gostyngiad sylweddol yn ngwerth cyfranddaliadau Facebook ers dydd Gwener, er bod prisiau wedi dechrau sefydlogi rhywfaint heddiw.